Ni fuasai gennyf obaith
Am ddim ond fflammau syth,
Y pryf nad yw yn marw,
A'r t'wyllwch dudew fyth:
Oni buasai'r hwn a hoeliwyd
Ar fynydd Calfari,
O ryw anfeidrol gariad
I gofio am danaf fi.
Ymwrthod 'rwyf â'r cyfan,
Er mwyn ei werthfawr waed,
Gan dynu'r balm oddi wrtho
Sy'n rhoddi gwir iachâd:
Nid oedd o tan yr haulwen,
Nid oedd o tan y ne',
Ddim allsai faddeu pechod
Yn unig ond efe.
Mi gana' tra b'o anadl,
O fewn y ffroenau hyn,
Am gariad Iesu'n dioddo'
Ar ben Calfaria fryn:
Am goron ddrain blethedig,
A'r hoelion garwa eu rhyw,
I gannu'm henaid euog
Fel eira gwynna ei liw.
Mi welaf yn ei fywyd,
Y ffordd i'r nefoedd fry,
Ac yn ei angau'r taliad
A roddwyd drosof fi.
Yn ei esgyniad gwelaf
Drigfanau pur y nef
A'r wledd drag'wyddol berffaith,
Gaf yno gyd âg ef.
Am hyn bydd i mi 'mwadu,
A'r cwbl yn gytun,
Pob cylch o ddyledswyddau,
Goreudeg hardd yn un;
Yn angeu'r groes yn unig,
Mae'm iachawdwriaeth lawn,
Ac am y groes mi ganaf,
O foreu hyd brydnawn.
Pe unwaith y darfyddai
Awdurdod Calfari,
Darfyddai pob cysuron
Ar unwaith genyf fi;
O bawb yn sicr byddwn
Y truenusaf ddyn,
Fe'm llyncai'r bedd dychrynllyd
Fi'n fuan iddo ei hun.
O deffro di fy nghalon,
Myfyria farwol loes;
'Does arall ddim a'th ddeffry
Os na wna angeu'r groes;
O tan y groes y torodd
Afonydd mawrion sydd
Yn tro tywyllwch dudew
Yn awr yn haner dydd.
- - - - -
Ni f'asai genyf obaith
Am ddim ond fflamau syth,
Y pryf nad yw yn marw,
A'r t'w'llwch dudew byth,
Pe na buasai'r Ceidwad,
Fu gynt ar Galfari,
O'i fawr anfeidrol gariad
Yn gofio am danaf fi.
Yn angau'r groes yn unig
Mae'm hiachawdwriaeth lawn
Ac am y groes mi ganaf,
O fore hyd brydnawn;
'Does ond yr aberth hwnw
Gaed ar Galfaria fryn,
A'm crea oll onewydd,
A'm càna oll yn wỳn.
William Williams 1717-91
Tonau [7676D]: gwelir: Angylion doent yn gyson Bechadur gwel yr Iesu Fy Nhad fy addfwyn Iesu Mi ganaf tra fo anal Mi welaf yn ei fywyd 'N ol edrych ar ol edrych Pa le dechreuaf ganu? Pe buasai mil o fydoedd Pwy ddyry im' falm o Gilead? Yn angeu'r groes yn unig Yn mywyd Iesu gwelaf Yr Iesu adgyfododd |
I would have had no hope
For anything but immediate flames,
The worm which does not die,
And the darkness forever thickly black,
Unless He had been nailed
On the mountain of Calvary
O what immeasurable love
Remembering me.
I will abstain from the whole,
For the sake of his precious blood,
While drawing the balm from him
Who gives true wholeness:
There is not under the sun,
There is not under heaven,
Anything that can forgive sin
Alone but he.
I will sing while ever there is breath,
Within these nostrils,
Of the love of Jesus suffering
On the summit of Calvary hill:
Of a twisted crown of thorns,
And the nails of the roughest kind,
To bleach my guilty soul
Like the snow of whitest colour.
I see in his life,
To way to the heavens above,
And in his death the payment
That was made on my account.
In his ascension I see
The pure dwellings of heaven
And the perfect, eternal feast,
I will have there with him.
Therefore I will renounce,
Everything altogether,
Every round of duties,
Surpassing beauty alike;
In the death of the cross alone,
Is my full salvation,
And of the cross I will sing,
From morning until evening.
If once the authority
Of Calvary should vanish,
Every comfort I have
Would vanish at once;
Of everyone surely I would be
The most wretched man,
The horrible grave would swallow me
Soon into itself.
O awaken thyself my heart,
Contemplate mortal anguish;
There is nothing else that awakens thee
If the death of the cross does not;
From beneath the cross broke
The great rivers which
Turn blackest darkness
Now into mid-day.
- - - - -
I would not have hope
For anything but straight flames,
The worm that does not die,
And the thick black darkness forever,
If the Saviour,
Who was once on Calvary,
Of his own immeasurable love
Did not remember me.
In the death of the cross alone
Is my full salvation
And about the cross I shall sing,
From morning until evening;
There is only that sacrifice
Got on Calvary hill,
That shall make me all anew,
And bleach me all white.
tr. 2008,20 Richard B Gillion
|
|